Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (206)v3 |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
|
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
|
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5527 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu bod gormod o bobl yng Nghymru yn aros yn rhy hir am brofion diagnostig a thriniaeth y GIG.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at yr anawsterau y mae cleifion yn eu hwynebu wrth drefnu apwyntiadau gyda meddyg teulu er mwyn cael triniaeth yn brydlon.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y cynnydd o 20% rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2014 yn nifer y cleifion sy’n disgwyl 36 wythnos i gael dechrau triniaeth ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder i fynd i'r afael â rhestrau aros hirdymor.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod amseroedd aros o’r fath yn sylweddol hirach yn GIG Cymru nag yn yr Alban a Lloegr.
|
5 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5529 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cynllun drafft “Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd”.
2. Yn nodi mai dewis Llywodraeth Cymru fyddai adeiladu M4 newydd dros Wastadeddau Gwent i'r de o Gasnewydd.
3. Yn credu y dylid diystyru'r llwybr a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer M4 newydd ar sail amgylcheddol a gwerth am arian.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau i ôl troed ffordd yr A48 bresennol o amgylch Casnewydd fel yr amlinellwyd yng nghysyniad y ‘Llwybr Glas’.
5. Yn credu na ddylai pwerau benthyca i Gymru fod yn seiliedig ar gymorth Llywodraeth Cymru i brosiect penodol, ond y dylent fod ar gael i'w defnyddio ar draws y cyfan o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.
Mae gweld Dogfen Ymgynghori ar y Cynllun drafft ‘Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd’ ar gael yma:
http://cymru.gov.uk/docs/det/consultation/130923m4conscy.pdf
Mae dogfen y ‘Llwybr Glas’ ar gael yma:
http://www.foe.co.uk/sites/default/files/downloads/m4-blue-route-45610.pdf [Saesneg yn unig]
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 3, 4 a 5.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:
‘fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer de ddwyrain Cymru sy’n cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith rheilffyrdd ar gyfer cludo nwyddau a gwella llwybrau lleol strategol'.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a’r ymrwymiad i gael mynediad cynnar at bwerau benthyca er mwyn ariannu gwelliannau i’r M4;
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod angen penderfyniad cynnar ynghylch cael ffordd i ysgafnhau’r tagfeydd ar seilwaith presennol yr M4 o amgylch Casnewydd, a rhoi’r penderfyniad hwnnw ar waith.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei lythyr yn dwyn y teitl ‘Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd’, ar 5 Mehefin 2014.
Mae llythyr y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gael yn:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/documents/s28157/Llythyr.pdf
|
6 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM5530 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd microgynhyrchu a chynhyrchu sy'n eiddo i gymunedau o ran datblygu cymysgedd ynni amrywiol i ddarparu ar gyfer anghenion ynni Cymru yn y dyfodol, a'r angen am fwy o effeithlonrwydd ynni i leihau ein defnydd o ynni a lleihau tlodi tanwydd.
2. Yn croesawu'r cynigion gan Lywodraeth y DU i gymunedau gael y cyfle i brynu rhan yn eu cynllun trydan adnewyddadwy lleol.
3. Yn gresynu at y canfyddiadau yng Ngwerthusiad Canol Tymor Ynni'r Fro Llywodraeth Cymru mai prin iawn fu'r cyflawniad yn erbyn y targedau ar gyfer cynhyrchu ynni, gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a chreu swyddi hyd yma.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gynorthwyo ynni cymunedol ac effeithlonrwydd ynni drwy:
a) sicrhau bod prosiectau microgynhyrchu yn cael eu hystyried gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu;
b) rhoi fframwaith cyfreithiol a busnes enghreifftiol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol Ynni Adnewyddadwy sy'n Eiddo i Gymunedau i leihau'r costau cyfreithiol a'r cymhlethdod i gymunedau sydd am sefydlu eu rhai eu hunain;
c) sicrhau bod y cyngor a'r cymorth a gynigir gan Swyddogion Datblygu Technegol Ynni'r Fro yn parhau ar ôl y rhaglen bresennol;
d) creu llyfrgell o adnoddau i gynorthwyo grwpiau cymunedol wrth wneud cais am gymorth ar gyfer prosiectau cynhyrchu cymunedol; ac
e) gweithio gyda darparwyr addysg i sicrhau bod polisïau newid yn yr hinsawdd ac addysg yn cydnabod yn llawn rôl addysg ac ysgolion o ran cyflwyno newid ymddygiad, a sicrhau mwy o ddealltwriaeth o faterion ecolegol yn ein hysgolion.
Mae Gwerthusiad Canol Tymor Ynni’r Fro ar gael yma:
http://cymru.gov.uk/statistics-and-research/evaluation-ynnir-fro/?lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ym mhwynt 2, dileu ‘croesawu’r’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le.
Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ym mhwynt 3, dileu ‘gresynu at y’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
sefydlu cronfa ynni cymunedol, yn seiliedig ar y rhaglen lwyddiannus Community Energy Scotland, i ddarparu cyllid drwy fenthyciadau i gymunedau lleol sy’n awyddus i sefydlu prosiectau ynni cymunedol, benthyciadau a fyddai'n cael eu dileu petai’r prosiectau’n aflwyddiannus.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
ystyried cyflwyno rhaglen ôl-ffitio ledled y wlad i leihau'n sylweddol y defnydd o ynni yng Nghymru.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y gellir eu cyflawni o fewn un prosiect cynhyrchu sy’n eiddo i gymunedau.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi cyllid cyhoeddus i Ynni Cymunedol Cymru i hwyluso prosiectau. |
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.46
|
Crynodeb o Bleidleisiau |
7 Dadl Fer - Gohiriwyd (30 munud) NDM5528 Nick Ramsay (Mynwy)
Llais - Siarad ar ran pobl sy'n byw gyda Chlefyd Niwronau Motor yng Nghymru. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 24 Mehefin 2014